Edward Heath
Mae un o heddluoedd Lloegr wedi cyhoeddi nad yw wedi gallu dod o hyd i unrhyw dystiolaeth sy’n cysylltu Edward Heath gydag unrhyw drosedd.

Ond mae Heddlu Gogledd Swydd Efrog yn dweudd iddo basio ymlaen “ddarn o wybodaeth” i Heddlu Wiltshire, yr heddlu sy’n cydlynu ac yn arwain yr ymchwiliad i mewn i gyn-Brif Weinidog Prydain.

“Yn dilyn ymchwiliad trylwyr, fe all Heddlu Gogledd Swydd Efrog gadarnhau na ddaethpwyd o hyd i ddim byd sy’n cysylltu Edward Heath gyda’r un drosedd – fel troseddwr neu ddioddefwr – yn yr ardal hon,” meddai llefarydd.

“Mae un darn o wybodaeth am Mr Heath, er nad ydi o’n ymwneud ag ardal Gogledd Swydd Efrog, wedi cael ei drosglwyddo i Heddlu Wiltshire, fel y llu sy’n arwain yr ymchwil i gyd.”

Mae llefarydd ar ran Heddlu Wiltshire wedi gwrthod gwneud sylw, “gan nad ydi o’n rhywbeth y buasen ni’n ei drafod”.

Yn gynharach y mis hwn, fe ddaeth Syr Edward Heath yn un o’r bobol amlyca’ mewn bywyd cyhoeddus i gael ei dynnu i mewn i’r sgandal sy’n ymwneud â honiadau hanesyddol o gam-drin plant. Fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Swydd Efrog bryd hynny eu bod nhw’n ymchwilio, wedi i ffotograff o’r cyn-Brif Weinidog ddod i’r fei yn cyfarfod y diweddar Peter Jaconelli, ffrind i Jimmy Savile.

Mae saith o luoedd yn Lloegr yn cynnal ymchwiliadau sy’n gysylltiedig â honiadau o gam-drin yn erbyn Edward Heath.