Mae dyn wedi’i arestio wedi i gar esgob gyda’r Mormoniaid gael ei ddwyn ac i’r clerigwr ddiodde’ anafiadau difrifol i’w ben.

Roedd David Charmbury wedi dod allan o’i gerbyd 4×4 er mwyn agor drysau ei eglwys fore Sul, pan ddaeth y lladron heibio. Fe gafodd yr esgob ei lusgo ar hyd y ffordd wrth iddo ddal gafael yn ei gerbyd.

Mae swyddogion o Heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau fod dyn 45 oed wedi’r gludo i’r ysbyty ac wedi’i roi mewn coma ar ôl diodde’ anafiadau difrifol iawn yn y digwyddiad yn Solihull ger Birmingham.

Mae dyn 32 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o ladrata, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bo’r ymchwiliad yn parhau.