Mae tri dyn wedi’u harestio gan dditectifs sy’n ymchwilio i lofruddiaeth y cyn-aelod o’ r IRA, Kevin McGuigan.

Fe gafodd y dynion 41, 44 a 53 oed eu cymryd i’r ddalfa heddiw yn ardal Belffast gan swyddogion Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon.

Fe saethpwyd Mr McGuigan yn farw yn ei gartre’ yn nwyrain Belffast yr wythnos ddiwetha’.