Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynghori Prydeinwyr i osgoi Bangkok er gwaetha’r ffrwydrad a laddodd o leiaf 20 o bobol yn y brifddinas ddoe.
Roedd twristiaid ymhlith y rhai fu farw, ac mae o leiaf 140 o bobl wedi eu hanafu, wedi fom ffrwydro mewn cysegr poblogaidd yng nghanol Bangkok ddydd Llun.
Er hynny nad ydyn nhw’n cynghori pobl i beidio teithio yno, mae’r Swyddfa Dramor wedi rhyddhau datganiad sy’n rhybuddio bod “bygythiad uchel” o ymosodiad arall.
Dywedodd gweinidog amddiffyn Gwlad Thai fod y bom wedi cael ei osod gyda’r bwriad o niweidio diwydiant twristiaeth Gwlad Thai,
Dywedodd Prawit Wongsuwan hefyd fod ymchwilwyr yn dod yn nes at ddod o hyd i’r rhai wnaeth gymryd rhan yn yr ymosodiad mwyaf gwaedlyd yn hanes diweddar y brifddinas.
Y ffrwydriad
Fe ddigwyddodd y ffrwydriaid ar gyffordd brysur yn ardal Rajprasong tua 7yh, amser lleol.
Roedd y ddyfais wedi’i gosod yng Ngysegrfan Erawan – man twristaidd sy’n boblogaidd gyda Hindwiaid, ond sydd hefyd yn gyrchfan i frodorion Gwlad Thai.
Mae awdurdodau Gwlad Thai wedi dweud nad oedden nhw wedi cael gwybodaeth am yr ymosodiad cyn i’r bom ffrwydro, a bod y bom wedi cael ei osod i ddwyn anfri ar y llywodraeth ac niweidio’r economi.
Mae China wedi dweud bod tri o’i ddinasyddion wedi marw, a dywedodd yr heddlu fod dyn o Ynysoedd y Philipinas hefyd ymhlith y rhai a laddwyd.