Keegan Hirst yw’r chwaraewr rygbi’r gynghrair cyntaf i gyhoeddi ei fod yn hoyw.
Mae Hirst, 27, yn chwarae i Batley Bulldogs, ac fe wnaeth y cyhoeddiad mewn cyfweliad â phapur neywydd y Sunday Mirror.
“Yn y lle cyntaf, do’n i ddim hyd yn oed yn gallu dweud yn fy mhen ‘Dw i’n hoyw’, heb sôn am ddweud y peth yn uchel.”
Roedd Hirst yn briod, ond wedi gwahanu, a chanddo ddau o blant.
“Nawr dw i’n teimlo fel pe bawn i’n gadael ochenaid hir allan sydd wedi cael ei gadw i mewn ers cyhyd.”
Hirst yw’r chwaraewr cyntaf i gyhoeddi ei fod yn hoyw ers i Gareth Thomas wneud yr un cyhoeddiad tra’n chwarae rygbi’r undeb i’r Gleision yn 2009.
Roedd Thomas eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn hoyw pan symudodd i rygbi’r gynghrair.
Ychwanegodd Hirst ei fod wedi ystyried cyflawni hunanladdiad yn ystod ei fywyd.
“Ar y diwrnodau gwaethaf, byddwn i’n meddwl, “Alla i ddim gwneud hyn, byddai’n well gen i fod yn farw nag i’r holl beth ddod allan.”