Mae merch bum mlwydd oed wedi marw ar ôl i’w phen fynd yn sownd mewn lifft, dywedodd yr heddlu.

Galwyd Heddlu Dorset am 11.58yb heddiw, ar ôl i’r ferch fynd yn sownd mewn tŷ yn Emmadale Close yn Weymouth.

Fe alwyd y gwasanaethau brys, ond bu farw’r ferch yn y fan a’r lle.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dorset: “Bu swyddogion yr heddlu, parafeddygon a diffoddwyr tân yn bresennol ond yn anffodus bu farw merch pum mlwydd oed yn y fan a’r lle.

“Mae Emmadale Close wedi cael ei gau i ganiatáu’r gwasanaethau brys i ddelio â’r digwyddiad ac er mwyn i ymchwilwyr troseddu i gynnal archwiliad.”