Mae llifogydd mewn rhannau o dde Lloegr, ac mae glaw trwm a stormydd wedi achosi trafferthion a gohirio rhai gwasanaethau rheilffordd.

Mae Brighton wedi ei chael hi’n waeth na llawer gyda lluniau sydd wedi’u postio ar y we yn dangos dŵr yn llifo trwy ddrysau.

Roedd Southern Railway hefyd wedi gohirio gwasanaethau rhwng Lewes a Wivelsfield dros dro tra bod y lein yn cael ei glirio.

Rhwng 10.42 y bore ma a hanner dydd, cafodd Gwasanaeth Tân East Sussex eu galw i 14 o achosion o lifogydd.

Ond dyw’r tywydd garw ddim drosodd eto gyda llawer o ardaloedd mewn perygl o lifogydd wrth i’r rhagolygon awgrymu y gall glawiad cyfartalog mis ddisgyn dros y 36 awr nesaf.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod canol tref Eastbourne wedi gweld 60mm o law ers 3 y bore ma, gyda’r rhan fwyaf ohono’n syrthio rhwng 10 a hanner dydd.