Llun o wefan gwasanaethau'r Ombwdsmon
Mae gwasanaeth ombwdsmon newydd yn cael ei lansio i fynd i’r afael â chwynion cwsmeriaid – o broblemau mewn siopau i drafferthion gyda cheir ail law.

Bwriad y swydd newydd yw llenwi bylchau yn y drefn bresennol, a allai olygu bod llai o faterion yn cael eu trosglwyddo i’r llys hawliadau bach.

Yn ôl adran yr ombwdsmon, fe fydd hefyd yn golygu gwasanaeth cyflymach a rhatach na’r drefn ar hyn o bryd.

Manylion

Fe fydd yr ombwdsmon defnyddwyr yn canolbwyntio ar faterion cynnal a chadw yn y cartref, manwerthu, ceir ail law a thrwsio a gwasanaethu ceir.

Mae’r gwasanaeth ar gael ar y we drwy fynd i www.consumer-ombudsman.org yng ngwledydd Prydain.

Gallai’r ombwdsmon fynnu ymddiheuriad neu iawndal ar ran cwsmeriaid ac mae’r arbenigwr ariannol, Martin Lewis o wefan MoneySavingExpert.com wedi croesawu’r gwasanaeth newydd.

‘Da i gwsmeriaid’

“Mae ein hymchwil yn dangos ein bod ni’n cwyno mwy nag erioed ond, yn rhwystredig ddigon, dydyn ni ddim bob amser yn gwybod ble i droi,” meddai’r prif ombwdsmon yng Ngwasanaethau’r Ombwdsmon.

“O ganlyniad, rydyn ni wedi agor ein drysau i gwynion mewn unrhyw sector. Mae hyn yn dda i gwsmeriaid oherwydd bydd yn cynnig ateb cyflym ac annibynnol i broblem heb fod perygl o filiau cyfreithiol ac achosion llys hir.”