Alex Salmond, llefarydd yr SNP ar faterion tramor
Mae cyn-brif weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn galw am ymchwiliad llawn gan lywodraeth Prydain i adroddiadau fod cannoedd o bobl ddiniwed wedi eu lladd  mewn cyrchoedd o’r awyr ar Irac a Syria.

Roedd yn ymateb i adroddiad gan griw o newyddiadurwyr annibynnol sy’n cynnwys manylion am 459 o farwolaethau, a thros 100 o blant yn eu plith, mewn 52 o ymosodiadau o’r awyr.

Roedd Aelodau Seneddol wedi pleidleisio yn erbyn gweithredu milwrol yn Syria, ond daeth i’r amlwg fod peilotiaid milwrol o Brydain wedi cymryd rhan mewn ymosodiadau ar Syria. Roedd ymosodiadau o’r fath ar Irac eisoes wedi cael eu cymeradwyo.

Dywed Alex Salmond, sydd belllach yn llefarydd yr SNP ar faterion tramor, fod yr adroddiad yn peri dychryn iddo.

“Mae’r ddadl dros i Brydain gymryd rhan mewn bomio yn Syria wedi cael ei gwrthod, ac mae’r hyn sy’n digwydd heb gymeradwyaeth y senedd yn mynd yn groes i benderfyniad democratiadd Tŷ’r Cyffredin,” meddai.

“Efallai fod y nifer uchel o farwolaethau pobl ddiniwed o ganlyniad i’r anhawster o adnabod targedau yn Syria, lle mae pedair carfan yn ymladd mewn rhyfel cartref dychrynllyd o gymhleth.

“Mae ymddygiad y llywodraeth yn y mater hwn yn gwbl annerbyniol, ac mae angen ar frys am ymchwiliad i’r marwolaethau hyn.”