George Cole
Mae’r actor George Cole wedi marw yn 90 oed.

Yn ystod gyrfa a barodd am 70 mlynedd, fe fydd yn cael ei gofio’n bennaf am rôl yn chwarae Arthur Daley yn y gyfres deledu Minder, gyda Dennis Waterman.

Fe ddechreuodd y gyfres yn 1979 cyn dod i ben yn 1994.

Roedd Cole hefyd wedi chwarae rôl  Flash Harry yn ffilmiau St Trinian’s yn y 50au.

Bu farw Cole yn Ysbyty Royal Berkshire gyda’i deulu wrth ei ochr, meddai ei asiant Derek Webster.

Mae’n gadael gwraig, Penny, a’i fab Toby.