Yr heddlu ar draeth Sousse yn Tiwnisia wedi'r ymosodiad ym Mehefin
Dywed Scotland Yard bod ’na gysylltiad ‘cryf’ rhwng ymosodiad ar dwristiaid ar draeth yn Tiwnisia ac ymosodiad brawychol mewn amgueddfa yn y wlad.

Roedd 30 o Brydeinwyr ymhlith y 38 o bobl gafodd eu saethu’n farw ar draeth yn Sousse gan y dyn arfog Seifeddine Rezgui ym mis Mehefin.

Ym mis Mawrth cafodd 22 o bobl, y rhan fwyaf yn dwristiaid, eu lladd mewn ymosodiad ar Amgueddfa Genedlaethol Bardo yn y brifddinas Tunis.

Dywedodd y Comander Richard Walton o’r Heddlu Metropolitan, sydd wedi darparu swyddogion i helpu gyda’r ymchwiliad, eu bod bellach yn cysylltu’r ymosodiad yn Amgueddfa Bardo gyda’r ymchwiliad i gyflafan Sousse.

Nid oedd yn fodlon rhoi rhagor o fanylion am y cysylltiad ond dywedodd ei fod wedi ei seilio ar dystiolaeth “gref.”

Mae’r grŵp eithafol IS wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad yn Sousse ac mae’r awdurdodau yn Tiwnisia wedi arestio 150 o bobl mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

O’r rheiny mae 15 wedi cael eu cyhuddo o droseddau brawychol.