Cilla Black
Bu farw Cilla Black o strôc ar ôl syrthio a tharo ei phen yn ei chartref yn Sbaen, meddai archwiliad post mortem.
Roedd y gantores a chyflwynydd teledu wedi bod yn torheulo yn ei chartref yn y Costa del Sol, pan syrthiodd a tharo ei phen gan ei gwneud yn anymwybodol.
O ganlyniad, bu farw o strôc, meddai ei hasiant mewn datganiad.
Dywedodd ei thri mab, Robert, Ben a Jack mewn datganiad: “Rydym wedi tristau’n fawr ar ôl colli ein mam ond wedi cael ein cysuro gan yr holl negeseuon o gefnogaeth gan ei ffrindiau, ei chefnogwyr, y cyhoedd a’r cyfryngau.
“Hoffwn ddiolch i bawb, yn enwedig pobl Lerpwl. Mae’r teyrngedau wedi bod o gymorth i’n helpu i ddod drwy’r cyfnod anodd hwn.”
Ychwanegodd y datganiad bod yr awdurdodau yn Sbaen bellach wedi rhoi caniatâd i gorff eu mam gael ei gludo yn ol i’r DU a’u bod yn bwriadu gwneud hynny mor fuan â phosib.
Nid oes unrhyw fanylion wedi cael eu datgelu am ei hangladd hyd yn hyn.
Mae ITV wedi cadarnhau y bydd yn darlledu fersiwn ddiwygiedig o’r rhaglen The One and Only Cilla Black heno.
Daeth i enwogrwydd yn y 60au fel cantores gyda chaneuon fel Anyone Who Had A Heart a You’re My World, cyn cyflwyno cyfresi teledu Blind Date a Surprise Surprise.