Yn ôl adroddiadau mae Scotland Yard yn cynnal ymchwiliad i honiadau o gam-drin plant yn rhywiol yn erbyn Syr Edward Heath.

Mae’r ymchwiliad i’r cyn-Brif Weinidog yn rhan o Operation Midland, sef ymchwiliad i honiadau bod grŵp o bedoffiliaid wedi bod yn weithredol yn y 1970au a’r 80au, yn ôl y BBC.

Ddoe, fe ddatgelwyd bod Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i honiadau bod Heddlu Swydd Wiltshire wedi penderfynu peidio erlyn unigolyn am droseddau rhyw yn erbyn plant ar ôl bygythiad i gyhoeddi’r honiadau yn erbyn Heath.

Mae’r IPCC hefyd yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod a oedd Heddlu Swydd Wiltshire wedi ymchwilio i honiad yn erbyn Syr Edward Heath a wnaed yn y 1990au.

Mae’r heddlu wedi gwneud apêl yn galw ar ddioddefwyr posib i gysylltu â nhw, tra bod dyn yn honni ei fod wedi cael ei dreisio gan Edward Heath yn y 1960au.

Mae Heddlu Ynys Jersey hefyd wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i honiadau yn erbyn Heath fel rhan o Operation Whistle, sef ymchwiliad i honiadau hanesyddol o gam-drin ar yr ynys.

Ac mae Heddlu Caint wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn adroddiad heddiw am ymosodiad rhywiol yn y sir yn y 1960au.

Bu farw Heath yn ei gartref yn Salisbury yn 89 oed yn 2005.