Awyren Tornado'r Llu Awyr
Fe fydd Sgwadron Tornado’r Llu Awyr yn helpu gyda’r cyrchoedd awyr yn erbyn canolfannau’r Wladwriaeth Islamaidd yn Irac am flwyddyn arall.

Roedd pryderon am ddyfodol y sgwadron, ond mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon wedi cyhoeddi bod eu dyfodol yn ddiogel hyd at fis Mawrth 2017.

Roedd disgwyl i’r sgwadron awyrennau Tornado GR4 ddod i ben fis Mawrth diwethaf, a’i ddisodli gan sgwadron Typhoon.

Ond yn dilyn cyrchoedd awyr fis Medi diwethaf, cyhoeddodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron y bydden nhw’n parhau am 12 mis arall.

Dywedodd Michael Fallon yn ystod ymweliad â Baghdad fod ymestyn bodolaeth y sgwadron am flwyddyn ychwanegol yn cynnig y sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyrchoedd awyr arbenigol yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd.

Mae penderfyniad Llywodraeth Prydain wedi cael ei groesawu gan bennaeth yr Awyrlu, Syr Andrew Pulford.

“Mae’n amlwg nad yw’r gofyn am gyrch gofalus gan jet cyflym a chasglu gwybodaeth yn mynd i ddiflannu,” meddai.

Fis diwethaf, rhybuddiodd pennaeth y lluoedd arfog, Syr Nicholas Houghton fod yr Awyrlu’n gweithredu o dan bwysau.

Mae’r awyrennau arbenigol wedi cymryd rhan mewn mwy na 250 o gyrchoedd awyr dros Irac.