Mae’r Trysorlys wedi dechrau’r broses o werthu ei siâr ym Manc Brenhinol yr Alban (RBS) am £2.1 biliwn, ond mae’r trethdalwr wedi gwneud colled o ryw £1 biliwn yn dilyn y gwerthiant.

Dywedodd UK Financial Investments, y corff sy’n gyfrifol am siâr y Llywodraeth yn RBS, ei fod wedi gwerthu 5.4% o’r banc am 330c am bob cyfran – sy’n llawer is na’r pris o 502c y talodd y Llywodraeth ar ôl achub RBS pan oedd yr argyfwng ariannol ar ei anterth.

Mae’n golygu bod siâr y Llywodraeth yn y grŵp wedi gostwng o 78.3% i 72.9%.

Dywedodd y Canghellor George Osborne y bydd y £2.1 biliwn yn cael ei ddefnyddio i dalu diffyg ariannol Prydain.

Ond mae’r Blaid Lafur wedi beirniadu’r “rhuthr i werthu’r” cyfrannau pan mae’r pris yn is na’r hyn yr oedd y Llywodraeth wedi talu amdanyn nhw.