Edward Heath
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth gan ddioddefwyr posib ar ôl i ddyn honni ei fod wedi cael ei dreisio gan gyn-Brif Weinidog Prydain, Syr Edward Heath pan oedd yn 12 oed.

Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn honiadau bod Heddlu Swydd Wiltshire wedi penderfynu peidio erlyn unigolyn am droseddau rhyw yn erbyn plant ar ôl iddo fygwth cyhoeddi’r honiadau yn erbyn Heath.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i ymdriniaeth yr heddlu o honiadau yn erbyn y Cyn-Brif Weinidog yn ystod y 1990au.

Roedd disgwyl y byddai dynes oedd yn rheoli puteindy fynd gerbron llys, ond dywedodd y byddai’n cyhoeddi’r honiadau pe bai’n wynebu achos.

Yn y cyfamser, mae’r dyn sydd wedi honni ei fod e wedi dioddef ymosodiad rhywiol gan Heath yn 1961 wedi dweud ei fod yn cael ei ystyried yn “gelwyddwr ac yn ffantasïwr”.

Mae’r dyn, sydd bellach yn ei 60au, wedi dweud ei fod e wedi cael ei gam-drin gan ei dad a’i ffrindiau pedoffilaidd drwy gydol ei blentyndod, a bod Heath wedi ei gasglu yn ei gar ar ffordd A2 yn Swydd Gaint.

Yn ôl papur newydd y Daily Mirror, mae’r dyn yn honni ei fod e wedi mynd i fflat yn Park Lane yn Llundain, lle cafodd ei dreisio.

Doedd e ddim yn sylweddoli pwy oedd y dyn ar y pryd, meddai, ond roedd yn ei adnabod o lun mewn papur newydd yn 1965.

Dywedodd ei fod yn sylweddoli pam na chafodd yr honiadau eu trin fel rhai difrifol wrth ddod i wybod pwy oedd Heath.

Dydy Heddlu Llundain ddim wedi ymateb i’r honiadau.

Dywed Heddlu Swydd Wiltshire fod cyn-swyddog yr heddlu wedi dweud yn 2014 ei fod yn ymwybodol o’r honiadau am achos llys rheolwraig y puteindy yn 90au.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu bod ymchwiliad ar y gweill.

Yn y cyfamser, mae’r Aelod Seneddol Llafur Tom Watson wedi dweud ei fod wedi cael gwybod am honiadau eraill yn erbyn Heath yn 2012.

Bu farw Heath yn ei gartref yn Salisbury yn 89 oed yn 2005.