Llys y Goron Southwark
Mae cyn-fasnachwr ariannol yn y Ddinas wedi ei cael ei garcharu am 14 mlynedd ar ol ei gael yn euog o ddylanwadau ar gyfraddau llog Libor.

Clywodd Llys y Goron Southwark yn Llundain bod Tom Hayes, 35, wedi “chwarae rhan allweddol” yn  y twyll i ddylanwadu ar y cyfraddau llog, er mwyn hybu ei gyflog o £1.5 miliwn.

Mewn recordiad sain, cafodd y cyn-fasnachwr gyda UBS a Citigroup ei glywed yn dweud bod “dylanwadu” ar Libor yn “gyffredin” a’i fod ef wedi “troseddu sawl gwaith.”

Roedd Hayes wedi gwadu wyth cyhuddiad o gynllwynio i dwyllo rhwng 2006 a 2010 pan oedd yn gweithio i UBS a Citigroup.

Mynnodd Hayes nad oedd yr hyn yr oedd wedi’i wneud yn anonest a bod ei benaethiaid yn gwybod beth roedd yn ei wneud.

Ond cafwyd Hayes, o Fleet yn Hampshire, yn euog o’r wyth cyhuddiad.

Mae nifer o fanciau gan gynnwys Barclays, Grŵp Bancio Lloyds, Royal Bank of Scotland a Deutsche Bank  wedi cael dirwyon o biliynau o bunnau am eu rhan yn helynt Libor.

Mae dwsinau o fasnachwyr wedi cael eu diswyddo ac mae un person, na ellir cyhoeddi ei enw, wedi pledio’n euog am eu rhan yn y twyll.

Mae Hayes yn wynebu’r posibilrwydd o gael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau lle cafodd ei gyhuddo o ddylanwadu ar gyfraddau Libor ym mis Rhagfyr 2012.