Syr Edward Heath
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i ymateb Heddlu Wiltshire i’r honiadau o gam-drin plant a wnaed yn erbyn y cyn-Brif Weinidog, Syr Edward Heath.

Gwnaed yr honiadau yn ystod y 1990au, ac mae’r Comisiwn yn ymchwilio i ymateb yr heddlu wrth ddelio â’r honiadau o gam-drin plant yn rhywiol gan archwilio a wnaethon nhw gymryd unrhyw gamau pellach.

Cafodd yr honiadau eu cyfeirio at yr IPCC gan Heddlu Wiltshire yn dilyn honiadau gan uwch swyddog sydd bellach wedi ymddeol.

Mae swyddogion yr heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Bu farw Syr Edward Heath yn 89 oed yn ei gartref yng Nghaersallog yn 2005.

Arweiniodd ef y Llywodraeth Geidwadol rhwng 1970 a 1974, tan iddo golli arweinyddiaeth y blaid i Margaret Thatcher yn 1975.