Ymfudwyr yn ceisio dringo ar lori yn Calais
Fe allai cymaint â saith ym mhob deg o ymfudwyr yn Calais fod yn cyrraedd y DU, mae ffigurau’r heddlu yn awgrymu.

Mae ymchwil gan yr awdurdodau yn Ffrainc yn amcangyfrif bod 70% o’r rhai sy’n cael eu “prosesu” yn ardal y porthladd yn gadael y safle o fewn pedwar mis.

Dywedodd prif gwnstabl Heddlu Caint, Alan Pughsley, sydd wedi trosglwyddo’r wybodaeth at y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref: “Nid ydyn nhw’n gallu cadarnhau a ydy’r ymfudwyr yn gadael i fynd i safleoedd eraill yn Ffrainc neu os ydyn nhw’n dod i’r DU.”

Ar ôl iddo ymddangos gerbron y pwyllgor fis diwethaf fe ofynnwyd i Alan Pughsley i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig ynglŷn â nifer yr ymfudwyr sy’n ceisio dod i Brydain.

Dywedodd: “Mae’n anodd rhoi ffigwr penodol am fod yr ymfudwyr yn defnyddio enwau ffug neu’n rhoi manylion ffug i staff yr Asiantaeth Ffiniau.

“Mae’r ffigurau sy’n cael eu rhoi gan yr heddlu ac asiantaethau eraill yn seiliedig ar yr ymfudwyr sy’n cael eu darganfod yn ystod archwiliadau. Fe allai’r ffigwr am nifer yr ymfudwyr sy’n dod i’r DU fod yn llawer uwch.”

Daw’r ffigurau wrth i’r Llywodraeth geisio mynd i’r afael a’r argyfwng ymfudwyr yn Calais.