Fe fydd mesurau newydd yn cael eu cyhoeddi heddiw er mwyn rhoi’r hawl i landlordiaid preifat gael gyrru mewnfudwyr anghyfreithlon o’u heiddo heb orchymyn llys.

Mae’r mesurau yn rhan o ymdrechion diweddaraf y Llywodraeth i fynd i’r afael a mewnfudwyr anghyfreithlon yn sgil yr argyfwng yn Nhwnnel y Sianel yn Calais.

Ond fe allai’r landlordiaid sy’n methu cydymffurfio a’r mesurau wynebu cosbau llymach eu hunain o hyd at bum mlynedd yn y carchar, yn ôl yr Ysgrifennydd Cymunedau Greg Clark.

Fe fydd y mesurau yn cael eu cynnwys ym Mesur Ymfudwyr y Llywodraeth gyda’r bwriad o’i gwneud yn anoddach i ymfudwyr ddod i fyw yn y DU ar ôl i’w fisas ddod i ben neu os yw eu cais am loches wedi cael ei wrthod.