Mae’r gantores a’r gyflwynwraig deledu Cilla Black wedi marw’n sydyn yn 72 oed.

Roedd hi wedi bod ar wyliau yn ei chartref yn Estepona ar y Costa del Sol yn Sbaen.

Roedd hi’n fwyaf adnabyddus am gyflwyno’r cyfresi ‘Blind Date’ a ‘Surprise, Surprise’ yn ystod gyrfa a barodd fwy na hanner canrif.

Dywedodd yr awdurdodau yn Sbaen eu bod nhw’n aros am ganlyniadau archwiliad awtopsi cyn cadarnhau sut y bu farw ond credir ei bod wedi marw o achosion  naturiol.

Fel cantores, cyrhaeddodd 11 o’i chaneuon ddeg uchaf siartiau senglau Prydain, gan gynnwys ‘Anyone Who Had a Heart’ (1964) a ‘You’re My World’ (1964).

Roedd hi’n briod â’i rheolwr Bobby Willis, fu farw yn 1999.

Cafodd ei phortreadu’r llynedd gan Sheridan Smith mewn drama am ei bywyd.

Mae’r Beatle Paul McCartney wedi talu teyrnged iddi gan ddweud ei bod yn “ferch hyfryd.. ac wedi bod yn anrhydedd i’w hadnabod a’i charu.”

Mae’n gadael tri mab a dau o wyrion.