Mae cadeirydd rheoleiddiwr llygredd Tŷ’r Arglwyddi wedi galw am ddileu’r lwfans presenoldeb i Arglwyddi dros 75 oed.

Ar hyn o bryd, gall Arglwyddi dderbyn £300 bob dydd am fynychu Tŷ’r Arglwyddi, ond does dim rhaid iddyn nhw gymryd rhan mewn dadleuon na phrofi eu bod nhw wedi gweithio tra eu bod nhw yno.

Mae’r galw am ddiwygio’r Tŷ wedi cynyddu ers i’r Arglwydd Sewel ymddiswyddo yn dilyn sgandal cyffuriau a phuteiniaid.

Mae honiadau hefyd bod nifer o Arglwyddi’n hawlio’r lwfans heb eu bod nhw cymryd rhan mewn dadleuon.

Daw sylwadau’r Arglwydd Bew wrth i adroddiadau awgrymu bod Prif Weinidog Prydain, David Cameron am benodi rhagor o Arglwyddi Ceidwadol.

Mae’r Arglwydd Soley hefyd yn galw am newid rheolau a fyddai’n caniatâu diarddel Arglwyddi ar unwaith pe bai honiadau’n cael eu gwneud yn eu herbyn.

Mae adroddiadau bod 20 o Arglwyddi “mud” wedi derbyn £1.6 miliwn am fynychu’r Tŷ dros y bum mlynedd ddiwethaf.