Mae awyren a oedd yn rhan o sioe awyr dros ogledd Lloegr, wedi plymio i’r ddaear ym Mharc Oulton yn Swydd Caer.

Mae’r trac rasio yn Little Budworth ar hyn o bryd yn gartre’ i ddigwyddiad ‘CarFest’ – digwyddiad a gafodd ei sefydlu gan y cyflwynydd radio a theledu, Chris Evans.

“Rydw i’n drist iawn wrth gyhoeddi fod yna ddamwain ddifrifol wedi bod yn CarFest,” meddai Chris Evans ar wefan Twitter.

“Mae’r gwasanaethau brys ar y safle ar hyn o bryd.”