Harriet Harman, arweinydd dros-dro Llafur
Mae Llafur yn galw ar i David Cameron fynnu iawndal gan Ffrainc i yrwyr lorïau, busnesau ac ymwelwyr o wledydd Prydain sydd wedi cael eu heffeithioo gan yr anhrefn ym mhorthladd Calais.

Mewn llythyr at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, mae arweinydd dros-dro y blaid Lafur, Harriet Harman, wedi beirniadu ymateb Mr Cameron am fod “yn brin o unrhyw ddatrysiad go iawn” ac mae’n ei gyhuddo ef yn bersonol o roi olew ar y tân trwy ddefnyddio ieithwedd “ymfflamychol”.

Fe ddaw’r alwad ddiwrnod wedi i David Cameron ffonio Prif Weinidog Ffrainc, Francois Hollande i drafod eu hymateb ill dau i’r golygfeydd lle mae ffoaduriaid a mudwyr yn ceisio cael mynediad i Dwnnel y Sianel yn Calais.

Mae David Cameron wedi dweud yn gyhoeddus ei fod yn disgwyl i’r sefyllfa barhau trwy gydol fisoedd yr haf.

Yn ôl Harriet Harman, mae David Cameron wedi anwybyddu’n gyson y rhybuddion am y broblem yn ardal Calais, lle mae cymaint â 5,000 o bobol yn byw mewn tref o bebyll, yn aros am eu cyfle i groesi’r Sianel a chyrraedd y Deyrnas Unedig.