Mae un o brif fanciau’r Deyrnas Unedig yn dweud eu bod wedi rhoi £1.4biliwn ychwanegol o’r neilltu er mwyn talu iawndal i gwsmeriaid am gam-werthu yswiriant PPI.

Wrth gyhoeddi eu ffigurau ariannol diweddara’, fe ddywedodd Banc Lloyds eu bod wedi synnu fod problemau’r yswiriant yn parhau.

“Mae’n siom i ddatgan fwy o baratoadau taliadau iawndal, ond rydym yn gwneud hyn o sefyllfa ariannol gryf,” meddai Prif Weithredwr y banc, Antonio Horta-Osario.

Elw

Yn y misoedd diwetha’ mae’r Llywodraeth wedi bod yn gwerthu siars yn y cwmni a gafodd ei achub trwy fuddsoddiad cyhoeddus o £20biliwn.

Roedd y cwmni yn gallu adrodd eu bod wedi gweld elw  o £1.19biliwn ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn a bydd y cyfranddalwyr yn derbyn difidend o 0.75ceiniog y siâr.

“Mae canlyniadau heddiw yn dangos y cynnydd cryf a wnaed gennym yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn,” meddai Antonio Horta-Osario:

“R’yn ni’n parhau i ganolbwyntio ar ein nod i fod y banc gorau i gwsmeriaid a chyfranddalwyr tra ar yr un pryd yn cefnogi economi’r Deyrnas Unedig.”