Coleg Newcastle
Mae dyn 19 oed wedi’i gael yn euog o gynllwynio i achosi cyflafan mewn coleg yn Newcastle.
Daeth yr heddlu o hyd i gyfarpar i wneud bomiau cartref a dryll llaw a bwledi yng nghartref Liam Lyburd fis Tachwedd diwethaf.
Yn Llys y Goron Newcastle, plediodd Lyburd yn euog i naw cyhuddiad o greu pum bom peipen a dwy ddyfais ffrwydrol, un cyhuddiad o fod â dryll ac offer ffrwydrol a nwy CS yn ei feddiant.
Cafwyd Lyburd yn euog o wyth cyhuddiad o fod ag eitemau yn ei feddiant, ac o fwriadu peryglu bywydau myfyrwyr y coleg.
Roedd Lyburd wedi gwadu’r wyth cyhuddiad.
Cefndir
Cafodd yr heddlu wybod am y cynllwyn gan aelod o’r cyhoedd ar ôl i Lyburd, o dan yr enw Felix Burns, gyhoeddi ei fwriad i lofruddio ar y we.
Cafodd ffeiliau eu darganfod ar ei gyfrifiadur, lle’r oedd e wedi amlinellu manylion am y cynllwyn.
Daeth yr heddlu o hyd i’r cyfarpar yn ei ystafell wely.
Daeth i’r amlwg fod Lyburd wedi’i ddiarddel o’r coleg ddwy flynedd cyn iddo gael ei arestio.
Dywedodd nad oedd “amheuaeth y byddai pobol yn marw”.
Wrth i Lyburd gael ei arestio, roedd yn chwerthin ac fe ddywedodd wrth yr heddlu eu bod nhw wedi achub bywydau di-ri wrth atal cyflafan.
Roedd Lyburd wedi honni bod y cynllwyn yn ffordd o ddenu sylw, ac nad oedd yn bwriadu lladd unrhyw un.
Daeth y rheithgor i ddyfarniad unfrydol, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar Fedi 25 ar ôl asesiad seiciatryddol.