Cafodd dyn sy’n cael ei amau o fod yn ymfudwr o Wlad Belg ei ddarganfod yn cuddio mewn bocs ceffylau oedd yn teithio i gystadleuaeth yng Ngorllewin Swydd Sussex ddydd Mercher.

Roedd y cerbyd, sydd wedi’i gofrestru yng Ngwlad Belg, ar ei ffordd i Gwrs Neidio Lloegr yn Hickstead.

Cafodd y dyn ei ddarganfod wrth i staff yn un o gyrsiau enwocaf y byd dynnu drws y cerbyd i lawr.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwrs: “Cafodd y tîm diogelwch wybod am y sefyllfa pan oedd y ceffylau’n cael eu dadlwytho, a chafodd y dyn ei weld gan staff meddygol cyn cael ei drosglwyddo i’r awdurdodau.”

Dydy hi ddim yn glir hyd yn hyn o ble wnaeth y dyn groesi’r Sianel.

Dydy Heddlu Swydd Sussex na’r Swyddfa Gartref ddim wedi gwneud sylw hyd yma.