Nigel Farage
Mae disgwyl i arweinydd UKIP, Nigel Farage alw ar ymgyrchwyr sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd  i gyflwyno dadleuon positif i gefnogi eu hachos.

Mae Farage hefyd am weld gwrthwynebwyr yn herio dulliau trafod Prif Weinidog Prydain, David Cameron ar faterion megis rheoli ffiniau, sofraniaeth Senedd San Steffan a chostau cynnal yr Undeb Ewropeaidd.

Mae UKIP yn ystyried y materion hyn yn rhai o brif bryderon pleidleiswyr yng ngwledydd Prydain.

Mae David Cameron yn mynnu bod y trafodaethau’n mynd yn “eithaf da” ar hyn o bryd.

Ond mae’n cydnabod hefyd fod “rhwystrau” ar y gorwel wrth geisio newid perthynas ei lywodraeth â Brwsel, wrth i’r trafodaethau barhau drwy gydol yr haf.

‘Ffars’

Mae disgwyl i’r bleidlais ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd gael ei chynnal cyn diwedd 2017.

Mae’r Canghellor George Osborne yn rhybuddio bod angen i’r Llywodraeth wella’i pherthynas economaidd â’r Undeb Ewropeaidd cyn ceisio darbwyllo pleidleiswyr i gefnogi’r achos i aros yn rhan o’r Undeb.

Mewn erthygl yn y Daily Express, dywedodd Nigel Farage fod y trafodaethau rhwng Cameron a’r Undeb Ewropeaidd yn “ffars lwyr”.

“Mae’n anobeithiol o ddi-uchelgais, wedi’i chwtogi gan ymrwymiad Cameron ei hun i barhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

“Peidiwch â chael eich twyllo. Dydy’r hyn ry’n ni’n dyst iddo’n fawr mwy nag ymgyrch PR o dan arweiniad Cameron sydd wedi’i gynllunio i’n cadw ni yn yr Undeb Ewropeaidd.”

Ychwanegodd mai pleidleisio ‘Na’ yw’r unig ateb i’r sefyllfa – ac mae David Cameron yn dweud o hyd fod unrhyw ganlyniad yn bosibl o hyd pe bai’r trafodaethau’n aflwyddiannus.