Mae cwmni nwy Centrica yn bwriadu cael gwared a miloedd o swyddi yn dilyn adolygiad strategol a fyddai’n golygu bod y gweithlu’n cael ei gwtogi o 10%.

Dywedodd perchennog Nwy Prydain y byddai’n cael gwared a 6,000 o swyddi ar draws y grŵp ond ni fydd y diswyddiadau i gyd yn y DU.

Fe fydd y cwmni’n creu 2,000 o swyddi eraill – gan olygu mai 4,000 fydd yn colli eu swyddi.

Daw’r newyddion er i elw Nwy Prydain ddyblu i £528 miliwn yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn – sy’n fwy nag elw’r cwmni ar gyfer y flwyddyn gyfan yn 2014.