Mae perchennog y Financial Times wedi cytuno i werthu’r papur newydd i Nikkei yn Siapan am £844 miliwn.
Mae Pearson wedi bod yn berchen ar y Financial Times ers 1957.
Nid yw’r gwerthiant yn cynnwys pencadlys Grwp FT yn Southwark Bridge, na’i gyfran o 50% yn The Economist.
Dywedodd prif weithredwr Pearson John Fallon eu bod wedi penderfynu y byddai’r papur newydd yn “ffynnu fel rhan o gwmni newyddion digidol rhyngwladol, gan sicrhau dyfodol newyddiadurol a masnachol yr FT.”
Nikkei yw’r busnes cyfryngau annibynnol mwyaf yn Asia.