Llywodraeth Thatcher wedi cael rhybudd am honiadau o gam-drin

Diweddarwyd am  


MI5
Fe wnaeth penaethiaid cudd-wybodaeth rybuddio Llywodraeth Thatcher fod honiadau ynglŷn ag Aelod Seneddol a’i “hoffter o fechgyn ifanc” mewn perygl o achosi embaras gwleidyddol, mae dogfennau wedi datgelu.

Mae ymchwilwyr cam-drin plant wedi darganfod nad oedd dim ystyriaeth wedi cael ei roi i’r bygythiad yr oedd y gwleidydd yn peri i blant,  ond fe wnaeth MI5 rybuddio uwch swyddogion y gallai’r cyhuddiadau fod yn niweidiol i’r Llywodraeth.

Mae’r cyfan wedi dod i’r amlwg mewn dogfennau llywodraethol sydd wedi cael eu rhyddhau sy’n dangos fod cyn-gyfarwyddwr cyffredinol MI5 Syr Antony Duff wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet Syr Robert Armstrong yn 1986 dros honiadau a wnaed gan ddwy ffynhonnell ynglyn a’r AS.

Mewn asesiad o’r dogfennau, dywedodd Peter Wanless, pennaeth elusen blant y NSPCC, a Richard Whittam QC – sydd wedi arwain ymchwiliad i honiadau hanesyddol o gam-drin plant gan ffigurau amlwg – fod “yna nifer o gyfeiriadau” sy’n atgyfnerthu’r ffaith fod materion o droseddau yn erbyn plant, yn enwedig hawliau’r achwynydd, yn cael llawer llai o ystyriaeth ddifrifol nag yw’r disgwyl erbyn heddiw.

Mewn dogfen a gyhoeddwyd ar wefan y Llywodraeth, dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod wedi chwilio’r archifau o’r newydd wedi i ddogfen ddod i’r amlwg yn gynharach eleni a ddylai fod wedi ei gyflwyno i ymchwiliad Peter Wanless a Richard Whittam.

Cafodd y cyn-weinidog Cabinet Leon Brittan, Peter Morrison, oedd yn gynorthwywr i Margaret Thatcher, y cyn-ddiplomydd Syr Peter Hayman a’r cyn-weinidog William van Straubenzee eu henwi mewn ffeiliau cudd eraill a gafodd ei datgelu yn dilyn yr ymchwiliad.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd