Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Philip Hammond
Mae mwy na 400 o bobol o wledydd Prydain wedi cael eu lladd dramor ers 2010, yn ôl ffigurau swyddogol.

Fe allai’r ymosodiad brawychol yn Tunisia – pan gafodd 30 o bobol o wledydd Prydain eu lladd – olygu mai 2015 yw’r flwyddyn waethaf ers amser hir, meddai’r Swyddfa Dramor.

Cadarnhaodd y Swyddfa Dramor bod 67 o bobol o wledydd Prydain wedi cael eu llofruddio neu wedi marw o ganlyniad i ddynladdiad eleni.

Dim ond marwolaethau y mae’r Swyddfa Dramor yn ymwybodol ohonyn nhw sydd wedi’u cynnwys yn y ffigurau, sy’n awgrymu y gallen nhw fod yn sylweddol uwch.

Mae’r ffigurau hefyd yn cynnwys y rhai fu farw yn Tunisia fis diwethaf.

Mae pobol o wledydd Prydain wedi marw mewn 22 o wledydd eleni, gan gynnwys Afghanistan, Brasil, Denmarc, De Sudan a’r Unol Daleithiau.

Cafodd uned newydd ei sefydlu gan y Swyddfa Dramor ym mis Ionawr o ganlyniad i’r ffigurau yn dilyn arolwg o’r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd a ffrindiau pobol sy’n marw dramor.