Mae Palas Buckingham yn ystyried cymryd camau cyfreithiol ar ôl i fideo gael ei gyhoeddi o’r Frenhines yn gwneud saliwt y Natsi pan oedd hi’n blentyn.

Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod sut y cafodd y fideo 17 eiliad ei roi i bapur newydd y Sun.

Yn y fideo, mae’r Frenhines, ei mam a’i hewythr, y Tywysog Edward yn codi’u breichiau i wneud y saliwt wrth chwarae fel teulu.

Dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham: “Siom yw’r ffaith fod y ffilm, gafodd ei saethu wyth degawd yn ôl ac wedi’i gadw yn archifau personol teulu Ei Mawrhydi, wedi’i gaffael a’i ecsbloetio yn y fath fodd.”

Mae’r papur newydd wedi cael ei feirniadu gan rai am benderfynu cyhoeddi’r fideo, a dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham y dylid ei drin yn ei gyd-destun cywir.

Mae’r Sun wedi dweud eu bod nhw wedi cael gafael ar y fideo gan ddefnyddio dulliau cyfreithlon, ac nad oedd yn fwriad ganddyn nhw feirniadu’r teulu brenhinol trwy ei gyhoeddi.

Mae Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, John Whittingdale wedi amddiffyn rhyddid y wasg i gyhoeddi’r fideo.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr ar BBC1 mai “mater i’r wasg yw penderfynu beth sy’n briodol i’w gyhoeddi”.