Fe ddefnyddiodd lladron faniau â thwll yn ei tho er mwyn dwyn arian o beiriant pres ddoe.

Fe ddefnyddiwyd jac codi baw hefyd er mwyn symud y peiriant o orsaf betrol yn Duckmanton ger Chesterfield yn Swydd Derby tua 4 o’r goch y bore.

Heddiw, mae’r heddlu yn galw ar i dystion ddod yn eu blaen i gynorthwyo’r ymchwiliad i’r lladrad yn siop Co-operative: Food, lle mae’r lluniau o gamera cylch-cyfyng yn dangos twll mawr yn y wal, wedi i’r peiriant a’i gynnwys gael ei dynnu allan a’i gario ymaith.

“Rydan ni’n credu mai fan Vauxhall Vivaro wen gafodd ei defnyddio yn y lladrad, a bod ei tho wedi cael ei dorri ymaith,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.