Mae pedwar o bobol wedi’u lladd mewn damwain ffordd rhwng dau gerbyd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain toc wedi 8yh neithiwr ar ffordd y B1102 yn Worlington, Suffolk.

Mae’r heddlu yn dweud i un o’r cerbydau adael y ffordd a glanio mewn gardd ffrynt gerllaw, cyn mynd ar dân.

Bu farw pedwar o bobol yn y fan a’r lle.