Jeremy Corbyn
Mae ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi dweud y bydd yn cael gwared a ffioedd myfyrwyr ac adfer grantiau cynnal petai’n cael ei ethol yn Brif Weinidog.

Meddai y byddai’n gallu talu am gynllun £10 biliwn drwy godi treth ar elw cwmnïau a chodi taliadau Yswiriant Gwladol ar gyfer y rhai sy’n ennill cyflogau uchel.

Mae Jeremy Corbyn yn un o hoelion wyth adain chwith y blaid ac mae arwyddion yn awgrymu ei fod yn ennill tir ymhlith aelodau newydd ac iau o’r blaid yn y ras i fod yn arweinydd.

Daeth ei gyhoeddiad am ffioedd myfyrwyr wrth i 40 o Aelodau Seneddol Llafur bleidleisio yn erbyn penderfyniad yr arweinydd dros dro, Harriet Harman, i beidio â gwrthwynebu toriadau lles gwerth £12 biliwn a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Geidwadol yn y Gyllideb.