Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall, wedi gofyn am gefnogaeth y cyhoedd i wrthwynebu cynlluniau tebygol y Llywodraeth i gyfyngu ar ei gwaith.

Mae disgwyl y bydd Papur Gwyrdd gan Lywodraeth Prydain ddydd Iau yn argymell torri ar amrywiaeth gwasanaethau’r Gorfforaeth.

“Ond, llais y gynulleidfa fydd bwysicaf yn y ddadl hon,”, meddai Tony Hall wrth gyhoeddi Adroddiad lynyddol y Gorfforaeth, “a dyw’r cyhoedd ddim eisiau i wasanaeth y BBC leihau”.

Effaith ar S4C

Fe fydd y Papur Gwyrdd hefyd yn ystyried dyfodol ffi’r drwydded deledu wrth i’r paratoi ddechrau at adnewyddu Siarter y BBC yn 2017 – ac fe fydd y penderfyniadau’n debyg o gael effaith ar S4C hefyd.

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale, eisoes wedi penodi panel o wyth person i weithio ar adnewyddu siarter frenhinol y BBC.

Yr wythnos ddiwetha’ fe orfododd y Gorfforaeth i dderbyn cytundeb i dalu am gostau rhoi trwydded am ddim i bobol dros 75 oed – yn gyfnewid am sicrwydd o gynnydd yn lefel y drwydded.

Torri costau

Er bod pwysau wedi bod ar y BBC i dorri costau, fe wnaeth y gorfforaeth gyflogi mwy o staff yn y flwyddyn 2014/15 gan dalu gwerth £976.5 miliwn o gyflogau i’w gweithwyr. Roedd hyn yn gynnydd o £21.5 miliwn ers y flwyddyn cynt.

Mae wynebau cyfarwydd fel Graham Norton a Gary Lineker wedi gweld cynnydd diweddar yn eu cyflogau hefyd, a hwythau eisoes yn ennill mwy na £1 miliwn y flwyddyn.

Yn sgil hyn, mae Tony Hall wedi cytuno ar gynllun pum mlynedd i arbed costau a chynhyrchu gwerth £1 biliwn o incwm annibynnol.

Un o’r gwerthwyr gorau yw Dr Who sy’n cael ei chynhyrchu yng Nghaerdydd ac sydd wedi ei thrwyddedu i 189 o ddarlledwyr dros y byd.

‘Cyfyngu ar greadigrwydd’

Mae’r Cyfarwyddwr-Cyffredinol yn poeni y gall cynlluniau’r Llywodraeth i leihau’r gwasanaeth gyfyngu ar greadigrwydd y rhaglenni y mae’r BBC yn eu cynnig.

“Mae gen i broblem fawr gyda chyfyngiadau artiffisial ar greadigrwydd”, meddai Tony Hall, “ac am hynny, mae’n mynd i fod yn anodd i gefnogi unrhyw gynnig fydd yn ein rhwystro rhag dod o hyd i’r Strictly, Bake Off neu Top Gear nesaf”, ychwanegodd.