Philip Hammond
Oherwydd y perygl o ymosodiad terfysg arall yn Nhunisia, mae miloedd o ymwelwyr a gweithwyr Prydeinig yn cael eu hannog gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i adael y wlad. Mae’r Swyddfa Dramor (FCO) yn rhybuddio pobl i beidio teithio i Dunisia wedi iddyn nhw dderbyn gwybodaeth bod ymosodiad terfysg arall yn “debygol iawn”.

Pythefnos yn ôl lladdwyd 38 o bobl, 30 ohonynt o Brydain, gan gynnwys Trudy Jones 51, o’r Coed Duon ger Casnewydd mewn ymosodiad gan ddyn arfog yn Sousse. Credir bod gan y saethwr Seifeddine Rezgui gysylltiadau gyda’r grŵp terfysg ISIL.

Mae disgwyl bydd rhwng 2,500 i 3,000 o dwristiaid ar wyliau yn ogystal â thua 300 o dwristiaid annibynnol yn hedfan yn ôl i Brydain dros y penwythnos.

Meddai Phillip Hammond y Gweinidog Tramor: “Er nad oes gennym unrhyw wybodaeth sy’n awgrymu bygythiad penodol neu ar fin digwydd, mae’r bygythiad wedi datblygu’n sylweddol a’r farn yw bod ymosodiad terfysg arall yn debygol iawn. ”

Yn dilyn y rhybudd mae cwmnïau gwyliau Thomson a First Choice wedi canslo’r holl deithiau i Dunisia am yr haf ac yn dod a’u gweithwyr  adref.

Mae llysgennad Tunisia ym Mhrydain, Nabil Ammar, o’r farn mai niweidio’r diwydiant twristiaeth yw bwriad y terfysgwyr.

Diogelwch

Dywedodd llefarydd ar ran Thomas Cook: “Diogelwch a lles ein cwsmeriaid yw ein prif bryder ac rydym wedi cymryd y penderfyniad i ddod a‘n holl gwsmeriaid adref cyn gynted ag y gallwn drefnu awyrennau.”

Mae cwmni awyrennau Monarch Airlines am ganslo eu holl deithiau i Faes Awyr Enfidha am weddill yr haf. Dywedodd y cwmni y byddai’r holl gwsmeriaid sydd wedi archebu tocynnau yn cael eu harian yn ôl.