Mae disgwyl i’r newyddiadurwr olaf i gael ei ganfod yn euog o hacio ffonau symudol yn achos papur newydd y News Of The World gael ei ddedfrydu heddiw.

Roedd Jules Stenson yn olygydd nodwedd i’r tabloid, a ddaeth yn adnabyddus am nifer o sgŵps yn ystod y 2000au.

Ond fe yw’r wythfed person nawr i wynebu carchar dros achosion o hacio ffonau yn y papur newydd rhwng 1 Ionawr 2003 a 26 Ionawr 2007.

Ym mis Rhagfyr y llynedd fe blediodd Jules Stenson, o Battersea yn ne orllewin Llundain, yn euog i’r cyhuddiadau o hacio ffonau.

Yn 2011 fe fu’n rhaid i’r papur newydd, oedd yn cael ei gyhoeddi’n wythnosol ar ddydd Sul, gael ei gau lawr yn dilyn yr achosion.