Mae dyn wedi’i gludo i’r ysbyty, wedi iddo gwympo oddi ar glogwyn 300 troedfedd.

Fe gafodd y dyn ei hun yn sownd o dan fowldar ar ôl cwympo oddi ar ymyl dibyn ar Drwyn St Alban ger Swanage yn sir Dorset.

Mi fedrodd alw’r gwasanethau brys trwy ddeialu 999, ac fe alwodd Gwasanaeth Ambiwlans Dorset am gymorth gwylwyr y glannau er mwyn dod o hyd iddo.

Fe fu’n rhaid i’r gwasanaeth achub ddefnyddio offer arbenigol gan Wasanaeth Tân ac Achub Dorset er mwyn rhyddhau’r dyn, cyn iddo gael ei hedfan mewn hofrennydd i Ysbyty Sir Dorset.