Mae cyn-ddirprwy olygydd y News of the World, Neil Wallis wedi’i gael yn ddieuog o gynllwynio i hacio ffonau symudol.

Wallis, 64, oedd dirprwy Andy Coulson rhwng 2003 a 2007, ac roedd e wedi’i gyhuddo o fod â rhan yn y sgandal arweiniodd at ddod â’r papur newydd i ben yn 2011.

Daeth y rheithgor yn yr Old Bailey i benderfyniad ar ôl pedwar diwrnod o bwyso a mesur y dystiolaeth.

Wallis yw’r newyddiadurwr olaf o’r News of the World i wynebu achos llys ar amheuaeth o hacio.