Gosod blodau ar y traeth yn Sousse
Mae llygad-dystion yn Tiwnisia yn honni bod mwy nag un person wedi bod yn gyfrifol am yr ymosodiad ar dwristiaid ar draeth ddydd Gwener diwethaf.

Mae’r heddlu yn parhau i holi saith person sy’n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â’r dyn arfog.

Daw’r honiadau wrth i awyren y Llu Awyr, sy’n cludo pobl o Brydain a gafodd eu hanafu’n ddifrifol yn yr ymosodiad, gyrraedd Brize Norton.

Roedd y myfyriwr Seifeddine Rezgui wedi saethu 38 o bobl yn farw ar draeth yn Sousse, cyn cael ei saethu’n farw gan yr heddlu. Credir bod hyd at 30 o’r rhai gafodd eu lladd yn dod o Brydain, gan gynnwys Trudy Jones o’r Coed Duon, Gwent.

Dywed yr awdurdodau bod Rezgui wedi cynnal yr ymosodiad ar ei ben ei hun, ond ei fod wedi cael cymorth gan unigolion cyn y digwyddiad oedd wedi rhoi arfau iddo a’i helpu i gynllwynio’r ymosodiad.

Ond mae dau gwpl o Brydain, a oedd yn aros yn Tiwnisia adeg yr ymosodiad, yn dweud eu bod wedi gweld ail ddyn arfog yn yr ardal.

Mae saith o bobl yn dal i gael eu holi gan yr heddlu yn y brifddinas Tunis ar ôl cael eu harestio mewn tair dinas.

Mae David Cameron wedi cyhoeddi y bydd munud o dawelwch ddydd Gwener er cof am y rhai gafodd eu lladd yn yr ymosodiad.