Pobl yn gosod blodau ar y traeth yn Sousse, Tunisia, lle cafodd 38 eu lladd
Mae Theresa May wedi ymweld â’r safle yn Tunisia lle cafodd 38 o bobl eu saethu’n farw ar draeth.
Bu’r Ysgrifennydd Tramor yn gosod blodau ac yn nodi cyfnod o dawelwch yn Sousse, lle ofnir bod 30 o bobl o Brydain wedi cael eu lladd gan ddyn arfog ddydd Gwener.
Fe fydd Theresa May a’r gweinidog yn y Swyddfa Dramor Tobias Ellwood yn cynnal cyfarfod gyda llywodraeth Tunisia er mwyn trafod y bygythiad gan frawychwyr.
Credir bod gan y dyn arfog, Seifeddine Rezgui, gysylltiadau â grŵp brawychol Isil.
Roedd y myfyriwr wedi targedu ymwelwyr ar draeth y RIU Imperial Marhaba a’r RIU Bellevue cyn cael ei saethu’n farw gan yr heddlu.
Mae 18 o bobl o’r DU ac Iwerddon wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol ond mae na bryderon y gall nifer y bobl o Brydain gafodd eu lladd gynyddu i 30.
‘Dewrder’
Ymhlith y rhai gafodd eu lladd roedd Trudy Jones, 51, o’r Coed Duon yng Ngwent a oedd ar ei gwyliau yn Tunisia.
Roedd Trudy Jones yn gweithio mewn cartref gofal ac yn fam i bedwar o blant.
Dywedodd Theresa May ei bod wedi clywed nifer o “brofiadau erchyll” am yr ymosodiad yn ystod ei hymweliad a Tunisia, yn ogystal ag achosion o “ddewrder”, gan gyfeirio at Matthew James, 30, o Drehafod ger Pontypridd, a oedd wedi amddiffyn ei ddyweddi Saera Wilson, 26, yn ystod yr ymosodiad.
Er iddo gael ei saethu deirgwaith fe lwyddodd i oroesi ac mae bellach yn cael triniaeth mewn ysbyty yng Nghaerdydd.
Mae baneri yn chwifio ar hanner mast ar holl adeiladau Llywodraeth Cymru er cof am y rhai fu farw.
Dychwelyd i’r DU am driniaeth
Mae Downing Street wedi cyhoeddi y bydd yr holl Brydeinwyr gafodd eu hanafu yn yr ymosodiad yn cael eu cludo yn ôl i’r DU am driniaeth o fewn y 24 awr nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran David Cameron bod awyren y Llu Awyr yn cludo pedwar o bobl yn ol i’r DU gyda thimau meddygol arbenigol ar ei bwrdd.
Yn y cyfamser mae’r DU yn pwyso ar yr awdurdodau yn Tunisia i sicrhau bod arbenigwyr o Brydain yn cael mynediad ar fyrder er mwyn helpu i adnabod y cyrff.
Fe fydd munud o dawelwch yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma cyn i David Cameron wneud cyhoeddiad i Aelodau Seneddol ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf.