Mae The Sun wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi rhywfaint o’u cynnwys am ddim ar y We, ddwy flynedd ers i ddefnyddwyr orfod dechrau talu i fynd ar eu gwefan.

Yn ôl Prif Weithredwr News UK Mike Darcey, mae’r papur wedi penderfynu gwneud hynny er mwyn “cymryd i ystyriaeth newidiadau sydyn ym myd technoleg a’r ffordd mae darllenwyr yn gweld a rhannu newyddion”.

O fis Gorffennaf ymlaen fe fydd rhai straeon, yn enwedig rheiny ym meysydd newyddion cyffredinol a chwaraeon sydd hefyd yn cael sylw gan bapurau newydd eraill, ar gael am ddim ar eu gwefan.

Ers cyflwyno’r wal dalu mae The Sun wedi gweld cwymp sylweddol yn y niferoedd sydd yn mynd ar eu gwefan, gan fod y rhan fwyaf o wefannau newyddion eraill yn gyfan gwbl am ddim.

Papur mwya’ poblogaidd

The Sun yw’r papur newydd mwyaf poblogaidd ym Mhrydain o hyd, gydag 1.8m o gopïau yn cael eu gwerthu bob dydd.

Ond ers cyflwyno wal dalu i’w gwefan ym mis Gorffennaf 2013, pan oedd 30 miliwn o ddefnyddwyr gwahanol yn ymweld â’r safle, mae eu ffigyrau wedi disgyn yn sylweddol – dim ond 225,000 o bobl oedd yn talu ar gyfer y gwasanaeth ym mis Tachwedd y llynedd.

Yn ôl arolwg yr NRS fe gyrhaeddodd The Sun 13.6m o bobl y mis rhwng ei chopi print a’i gwefan digidol yn y flwyddyn hyd nes Mawrth 2015.

“Dyma yw dechrau, nid diwedd, ein hesblygiad ni gyda The Sun,” meddai Mike Darcey mewn e-bost i staff wrth drafod y newidiadau i’w gwasanaeth newyddion ar-lein.