Mae bachgen 14 oed wedi ymddangos o flaen llys heddiw ar gyhuddiad o geisio llofruddio athro yn ystod gwers wyddoniaeth.

Cafodd y bachgen ei arestio ar ôl i’r athro llanw Vincent Uzomah, 50 oed, ei drywanu yn ei stumog wrth iddo gychwyn ei wers yn y Dixon Kings Academy yn Bradford ddydd Iau.

Ar ôl i ble dieuog gael ei gyflwyno ar ei ran, gorchmynodd yr ynadon i’r bachgen gael ei gadw yn y ddalfa mewn canolfan gadw i bobl ifanc. Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Bradford ar 29 Mehefin.

Mae’r athro, Vincent Uzomah, mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ac ni chredir bod ei fywyd mewn perygl.

Mae’r ysgol o fewn 15 milltir i goleg catholig Corpus Christi yn Leeds lle cafodd yr athrawes Ann Maguire ei thrywanu i farwolaeth gan ddisgybl ychydig dros flwyddyn yn ôl.