David Cameron
Mae David Cameron wedi galw ar y corff sy’n gosod tâl ar gyfer Aelodau Seneddol i ailystyried ei gynlluniau i roi codiad cyflog o 10%.

Dywedodd Downing Street fod llythyr wedi’i anfon at yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (Ipsa) yn cadarnhau gwrthwynebiad y Prif Weinidog.

Mae David Cameron wedi dod dan bwysau i wneud safiad yn erbyn cynyddu tâl ASau, ar ôl i ymgeiswyr arweinyddiaeth y Blaid Lafur ddweud na fyddan nhw’n derbyn y codiad cyflog.

Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi dweud fod y cynnydd yn annerbyniol ond  nid oedd wedi gwrthod y codiad cyflog.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street:  “Rydym yn ysgrifennu at yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (Ipsa) i ail-ategu ein safiad blaenorol y llynedd fod y cynnydd yn amhriodol.”