Gwesty Baur au Lac yn Zurich, Y Swistir, lle cafodd chwech o uwch swyddogion Fifa eu harestio
Mae chwech o uwch swyddogion Fifa wedi cael eu harestio yn y Swistir bore ma fel rhan o ymchwiliad rhyngwladol i honiadau o lygredd a thwyll gwerth £65 miliwn dros gyfnod o 30 mlynedd.

Pedwar o’r chwech sydd wedi cael eu harestio yw’r is-lywyddion Jeffrey Webb ac Eugenio Figueredo, cyn-aelod o’r pwyllgor gwaith Jose Maria Marin, ac Eduardo Li oedd yn gobeithio dod yn aelod o’r pwyllgor gwaith ddydd Gwener.

Dywed swyddogion yn y Swistir bod yr honiadau yn dyddio nôl i’r 1990au ac yn “cynnwys derbyn llwgrwobrwyon.”

Roedd swyddogion yr heddlu wedi arestio’r chwech yng ngwesty Baur au Lac yn Zurich.

Dywedodd llefarydd ar ran Fifa nad yw’r llywydd Sepp Blatter, sy’n gobeithio cael ei ail-ethol ddydd Gwener, ymhlith y rhai sydd wedi cael eu harestio.

Mae disgwyl i Blatter fynychu cyfarfod o Gonffederasiwn Pêl-droed Affrica mewn gwesty arall yn Zurich y bore ma.

Fe gawson nhw eu harestio ar gais yr awdurdodau yn yr Unol Daleithiau ac mae disgwyl i’r twrne cyffredinol Loretta Lynch gynnal cynhadledd newyddion am 10 o’r gloch.

Fe allai’r chwech gael eu hestraddodi i’r Unol Daleithiau.