Bydd cyflogau gweinidogion Llywodraeth Prydain yn cael eu rhewi am bum mlynedd arall wrth i’r Prif Weinidog David Cameron fynnu bod rhaid i bawb ysgwyddo’r faich o adfer yr economi.

Mae disgwyl i’r cam o rewi cyflogau fod wedi arbed £4 miliwn erbyn 2020.

Mae gweinidogion Llywodraeth Prydain yn derbyn cyflog o £134,565 ar hyn o bryd, gan gynnwys eu cyflogau fel aelodau seneddol.

Mae Cameron yntau’n derbyn £142,500.

Mae Ipsa, y corff sy’n rheoleiddio safonau seneddol, wedi awgrymu codiad cyflog i aelodau seneddol o £67,060 i £74,000 ond mae Cameron yn mynnu na ddylid derbyn yr argymhelliad.

Ym mhapur newydd y Sunday Times, dywedodd: “Ni allwn esgus nad oes ffordd hir o’n blaenau o hyd.

“Rydym wedi torri’r diffyg yn ei hanner fel cyfran o’r economi – ond mae hanner yn weddill i’w dalu.

“Felly byddwn yn parhau i wneud y penderfyniadau anodd sy’n angenrheidiol er mwyn torri ar wariant a sicrhau ein heconomi.

“Wrth i ni wneud hynny, dydw i ddim am i bobol fod o dan unrhyw amheuaeth: fe ddywedais bum mlynedd yn ôl ein bod ni [yn y sefyllfa] gyda’n gilydd a phum mlynedd yn ddiweddarach, does dim byd wedi newid.”

Bydd prif flaenoriaethau’r Llywodraeth Geidwadol yn cael eu hamlinellu yn ystod Araith y Frenhines yr wythnos hon.