Andy Coulson
Mae cyn-newyddiadurwr y News of the World, Clive Goodman wedi cyfaddef iddo hacio ffonau tra roedd Andy Coulson yn olygydd y papur newydd.

Daeth y cyfaddefiad yn ystod achos llys yn erbyn Andy Coulson, sydd wedi’i gyhuddo o ddweud celwydd tra’n rhoi tystiolaeth yn achos llys cyn-Aelod Seneddol yr Alban Tommy Sheridan.

Dywedodd Goodman, oedd yn olygydd brenhinol y papur newydd, ei fod yn adnabod rhywun oedd yn gallu “datrys straeon oedd yn ymddangos fel pe na bai modd eu datrys, yn gyflym iawn”.

Ychwanegodd ei fod wedi derbyn rhestr o rifau ffôn oedd wedi’u casglu drwy hacio ffonau.

Dywedodd Goodman wrth y llys: “Byddwn i’n clywed negeseuon, negeseuon peiriant ateb.”

Honnodd fod yr hacio’n digwydd rhwng 2004 a 2005 o dan arweiniad Coulson.

Mae’r erlyniad yn honni ei fod wedi dweud celwydd wrth honni nad oedd yn ymwybodol fod ffonau’n cael eu hacio.

Mae Coulson hefyd wedi’i gyhuddo o ddweud celwydd am y ffaith ei fod yn ymwybodol fod Goodman yn hacio ffonau.

Mae’n gwadu’r cyhuddiadau.

Taliadau

Clywodd y llys fod Clive Goodman wedi cydweithio yn uniongyrchol a’r ditectif preifat  Glenn Mulcaire, oedd wedi “cwyno” bod y papur newydd yn gostwng ei gyllideb o £500.

Fe awgrymodd Mulcaire y byddai’n fodlon derbyn £500 yr wythnos petai Clive Goodman yn rhoi enwau cysylltiadau’r teulu brenhinol iddo, ac y byddai yntau yn gwrando ar eu negeseuon ffôn.

Ond doedd dim modd i Goodman sicrhau y gallai dalu Mulcaire am y gwaith.

Dywedodd Goodman y byddai’n rhaid iddo ofyn i olygydd y papur, Andy Coulson am yr hawl i roi taliadau.

Mae’n honni bod y taliadau hynny wedi cael eu hawdurdodi gan Coulson am gyfnod o fis i ddechrau, ar ôl iddo “amlinellu” cynnig Mulcaire.

Dywedodd Clive Goodman mai ef oedd yn gyfrifol am y trefniadau a’i fod yn rhoi arian i Mulcaire o dan enw ffug.

Mae Goodman yn honni nad oedd yn gwybod bod y trefniant yn un anghyfreithlon.

Dywedodd Goodman ei fod wedi bod dan “bwysau sylweddol” i ddod o hyd i straeon mawr pan gafodd dirprwy olygydd newydd ei benodi.

Mae’r achos yn parhau.