Mae cwmni ynni SSE wedi colli hanner miliwn o gwsmeriaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf addewid i rewi biliau tan o leiaf 2016.

Dywed y cwmni mai “amodau’r farchnad gystadleuol” sy’n gyfrifol am y gostyngiad yn nifer eu cwsmeriaid.

Bellach, 8.5 miliwn o gwsmeriaid sydd gan y cwmni – yr un faint ag oedd ganddyn nhw yn 2008.

Daw’r newyddion er gwaethaf cynnydd o 39% yn elw’r cwmni hyd at Fawrth 31.

Cafodd prisiau tanwydd eu codi ym mis Tachwedd 2013, ond fe addawodd y cwmni y bydden nhw’n rhewi prisiau o ganlyniad i ostyngiad o 4.1% ym mhris nwy o fis diwethaf ymlaen.

Mae’r cwmni hefyd yn gweithredu o dan yr enwau Swalec, Scottish Hydro, Southern Electric ac Atlantic.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: “Hoffai SSE barhau i rewi prisiau neu dorri prisiau hyd yn oed pe bai modd torri costau cyflenwi ynni, ac fe fyddwn yn cydweithio â llywodraeth newydd y DU neu unrhyw ran-ddeiliad er mwyn dod o hyd i’r fath atebion.”

Ychwanegodd y cwmni nad yw adfer costau trwy filiau ynni yn rhoi ystyriaeth i allu’r unigolyn i dalu.

Mae ymchwiliad eisoes ar y gweill i amodau’r farchnad er mwyn darganfod a yw cwsmeriaid yn cael eu trin yn annheg gan brif ddarparwyr ynni gwledydd Prydain.